Dyddiad yr Adroddiad

03/21/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Pwnc

Gwasanaethau i Bobl hŷn

Cyfeirnod Achos

202006083

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Cwynodd Mrs T fod y Tîm Diogelu Oedolion yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam (“y Cyngor”) wedi camreoli 4 atgyfeiriad Diogelu a dderbyniodd mewn perthynas â’i diweddar ffrind, Mr D – yr oedd gan Mrs T Atwrneiaeth Arhosol dros Iechyd a Lles (“Atwrneiaeth Arhosol”) ar ei gyfer. Roedd yr atgyfeiriadau’n honni bod Mr D, a oedd â dementia cynyddol, wedi cael ei gam-drin/mewn perygl o gael ei gam-drin gan Mrs T o ganlyniad i’w hymwneud ag ef (yn dilyn ei roi mewn Cartref Gofal). Cwynodd Mrs D:
1. Na ddylai’r atgyfeiriadau Diogelu fod wedi cyrraedd y trothwy ar gyfer ymchwiliad gan eu bod yn flinderus eu natur.
2. Ni chynhaliwyd yr ymchwiliadau Diogelu yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
3. Roedd swyddog Diogelu wedi rhoi gwybod yn amhriodol i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus am yr atgyfeiriadau a dderbyniwyd, sy’n gyfrifol am gofrestru a rheoleiddio atwrneiaethau arhosol.
4. Ni chafodd Mr D wybod am yr atgyfeiriadau nac am yr ymchwiliadau dilynol ac felly ni chafwyd ei farn am y digwyddiadau dan sylw. Yn ogystal, ni chafwyd tystiolaeth gan dystion y gallai eu mewnbwn fod wedi dylanwadu’n ffafriol ar yr ymchwiliadau.
5. Ni chafodd Mrs T yr wybodaeth ddiweddaraf am hynt na chasgliadau’r ymchwiliadau.

Ni chadarnhaodd yr Ombwdsmon yr un o gwynion Mrs T. Canfu ei ymchwiliad:
1. Nad oedd unrhyw dystiolaeth bod yr atgyfeiriadau, fel y’u derbyniwyd, yn flinderus eu natur. Roedd yn rhaid i’r Tîm Diogelu Oedolion ymchwilio i weld a oedd Mr D yn oedolyn mewn perygl ac (mewn 2 o’r 4 atgyfeiriad) argymhellodd fesurau diogelu priodol i gyfyngu ar gysylltiad Mrs T â Mr D.
2. Canfu’r Ombwdsmon fod y Tîm Diogelu Oedolion wedi delio â’r atgyfeiriadau a dderbyniodd yn unol â’r gweithdrefnau a nodir yn Rhan 7 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (ac yn unol â Chyfrol 6 y canllawiau statudol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru).
3. Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y penderfyniad i roi gwybod am yr atgyfeiriadau a dderbyniwyd i Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn afresymol (fel rheoleiddiwr yr atwrneiaethau arhosol). Daeth Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus i’r casgliad y dylai Mrs T barhau i fod yn Atwrnai Mr D a chafodd y Cyngor ei arwain gan y cyngor hwn.
4. Canfu’r ymchwiliad fod Mr D wedi cael gwybod am yr atgyfeiriadau a chafwyd ei farn am y digwyddiadau dan sylw. Gan nad yw gweithdrefnau Diogelu yn gweithredu i bennu a yw’r cyflawnwr honedig yn euog neu’n ddieuog, nid oedd yn briodol galw tystion cymeriad.
5. Canfu’r Ombwdsmon fod Mrs T wedi cael yr wybodaeth ddiweddaraf yn briodol am hynt a chasgliadau’r ymchwiliadau.