Dyddiad yr Adroddiad

02/02/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Ynys Môn

Pwnc

Gwasanaethau i Bobl ag anabledd

Cyfeirnod Achos

202106137

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms A nad oedd y Taliadau Uniongyrchol roedd y cyngor yn eu cynnig yn ddigonol, nad oedd asesiadau gofalwyr yn eu lle ac nad oedd gwaith addasu i’w heiddo wedi mynd rhagddo oherwydd nad oedd hi’n gallu penodi asiant. Cytunodd y cyngor i helpu Ms A i ganfod a phenodi asiant, i gynnig asesiadau gofalwyr ac i roi gwybodaeth i Ms A am y broses datrys anghydfodau er mwyn rhoi sylw i bryderon ynghylch Taliadau Uniongyrchol.