Dyddiad yr Adroddiad

03/04/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Abertawe

Pwnc

Gwasanaethau i Bobl ag anabledd

Cyfeirnod Achos

202003870

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mrs A fod Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion y Cyngor yn afresymol wrth wrthod gweithredu safon ofynnol o fonitro fel yr argymhellwyd yn ei ymchwiliad Cam 2 i gŵyn ei mab (Mr B), a bod y Cyngor wedi methu ag ymddiheuro am y methiannau a nodwyd yn yr ymchwiliad Cam 2.
Canfu’r Ombwdsmon, er bod y Cyngor wedi methu ag adolygu cynlluniau gofal Mr B, bod ei resymeg yn rhesymol, o ran na fyddai gweithredu argymhelliad ar derfyn amser ar gyfer adolygiad sefydlog ar draws y gwasanaeth o reidrwydd yn briodol ym mhob achos ac y gallai danseilio cynllunio unigol ar gyfer anghenion unigol. Felly ni chafodd yr elfen hon o’r gŵyn ei chadarnhau. Fodd bynnag, roedd yr Ombwdsmon yn siomedig nad oedd y Cyngor wedi ymddiheuro i Mrs A am y methiannau a ganfuwyd ganddo fel rhan o’i ymchwiliad ei hun. Roedd hyn yn mynd yn groes i Bolisi Cwynion Gwasanaethau Cymdeithasol y Cyngor ac felly’n gamweinyddu, yn ogystal ag achosi gofid y gellid ei osgoi i Mrs A. Cafodd y rhan hwn o’r gŵyn ei gadarnhau.
Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai’r Cyngor, o fewn 1 mis, ymddiheuro i Mrs A am y methiannau a nodwyd a thalu iawndal o £250 i gydnabod yr amser a’r drafferth y gellid fod wedi ei hosgoi a achoswyd iddi drwy fod angen uwchgyfeirio ei phryderon. Argymhellodd yr Ombwdsmon hefyd y dylai’r Cyngor, o fewn 3 mis, adolygu’r ffordd mae’n cyfleu canlyniad ymchwiliadau Cam 2 a rhoi canlyniadau’r adolygiad hwn i’r Ombwdsmon ac unrhyw welliant arfaethedig o ganlyniad.