Dyddiad yr Adroddiad

06/22/2021

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Ceredigion

Pwnc

Gwasanaethau Cymdeithasol Plant

Cyfeirnod Achos

202100516

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss X am nad oedd Cyngor Sir Ceredigion (“y Cyngor”) wedi rhoi sylw amserol i’w chŵyn am Wasanaethau Cymdeithasol.
Wrth ystyried cwyn Miss X, roedd yr Ombwdsmon yn bryderus oherwydd yr oedi sylweddol a fu cyn ymateb i’w chŵyn, am nad oedd wedi cael ymateb, a bod gweithredoedd y Cyngor wedi achosi anghyfleustra iddi. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb gynnal ymchwiliad.
Gofynnodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i:
• Cynnig taliad ‘amser a thrafferth’ o £150 i Miss X.
• Cynnig ymddiheuriad ffurfiol i Miss X am y methiannau a ganfuwyd o ran delio â’i chŵyn.
• Ymchwilio i’w chŵyn yn unol â’r weithdrefn gwyno Gwasanaethu Cymdeithasol.
Cytunodd y Cyngor i gyflawni’r camau hyn o fewn 4 wythnos.