Dyddiad yr Adroddiad

09/28/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Caerdydd

Pwnc

Gwasanaethau Cymdeithasol Plant

Cyfeirnod Achos

202203480

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X fod y Cyngor wedi methu â dilyn Gweithdrefnau Cwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol, gan nad oedd wedi derbyn cydnabyddiaeth ffurfiol nac ymateb i’w bryderon, a wnaed ym mis Awst 2022.

Cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Cyngor. Fel dewis amgen yn lle ymchwiliad, cytunodd y Cyngor y byddai’n cyhoeddi ymddiheuriad i Mr X am beidio â dilyn Gweithdrefnau Cwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol a chydnabod ei gŵyn yn ffurfiol erbyn 30 Medi 2022. Yn ogystal, cytunodd y Cyngor y byddai’n ymchwilio ac yn ymateb i bryderon Mr X o dan Gam 1 y Gweithdrefnau Cwynion, erbyn 28 Hydref 2022. Derbyniodd yr Ombwdsmon hwn fel datrysiad i bryderon Mr X.