Dyddiad yr Adroddiad

07/06/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Caerdydd

Pwnc

Gwasanaethau Cymdeithasol Plant

Cyfeirnod Achos

202201605

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X na wnaeth y Cyngor ymateb i’w gŵyn ynghylch mater yn ymwneud â Gwasanaethau Cymdeithasol.

Penderfynodd yr Ombwdsmon y dylai’r Cyngor drefnu cyfarfod ar-lein rhwng Mr X a’i Reolwr Gweithredol (erbyn 8 Gorffennaf) i drafod manylion ei gŵyn. Dylai wedyn roi ymateb ysgrifenedig o sylwedd i Mr X i fynd i’r afael â’i gŵyn (o fewn 3 wythnos i’r cyfarfod).

Cytunodd y Cyngor i gwblhau’r camau uchod er mwyn setlo’r gŵyn. Roedd yr Ombwdsmon o’r farn fod hyn yn ffordd briodol o ddatrys y gŵyn yn hytrach na chynnal ymchwiliad.