Dyddiad yr Adroddiad

11/02/2021

Achos yn Erbyn

Cyngor Caerdydd

Pwnc

Gwasanaethau Cymdeithasol Plant

Cyfeirnod Achos

202104070

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X fod y Cyngor heb symud ymlaen gyda’r ymchwiliad i’w gŵyn am adran Gwasanaethau Cymdeithasol y Cyngor yn unol â’r broses gwynion statudol ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol.
Nododd yr Ombwdsmon nad oedd y Cyngor wedi gallu penodi ymchwilydd annibynnol a oedd ar gael i ymchwilio i gŵyn Mr X, er gwaethaf mynd ar drywydd nifer o opsiynau. Bu’n anodd hefyd trefnu apwyntiad wyneb yn wyneb rhwng ymchwilydd annibynnol a Mr X i drafod ei gŵyn oherwydd cyfyngiadau pandemig COVID-19. Achosodd hynny oedi i’r broses a rhwystredigaeth naturiol i Mr X.
Mae’r Cyngor, yn dilyn cwyn Mr X i’r Ombwdsmon wedi:
• Penodi ymchwilydd annibynnol i archwilio i gŵyn Mr X yn unol â cham ffurfiol proses gwynion Gwasanaethau Cymdeithasol, ac mae hynny’n mynd rhagddo.
• Cytuno i gynnig taliad o £250 i Mr X i gydnabod y methiannau cyfathrebu o ran statws ei gŵyn cam 2.