Dyddiad yr Adroddiad

10/12/2021

Achos yn Erbyn

Cyngor Caerdydd

Pwnc

Gwasanaethau Cymdeithasol Plant

Cyfeirnod Achos

202103524

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr A fod Cyngor Caerdydd (“y Cyngor”) wedi methu ag ymateb i bob agwedd ar ei gŵyn a wnaed ar 27 Gorffennaf 2021. Dywedodd Mr A y gofynnwyd iddo nodi pwyntiau pellach a’i fod wedi gwneud hynny mewn e-bost a anfonwyd at y Cyngor ar 13 Awst 2021. Dywedodd Mr A fod y Cyngor yna wedi gwrthod rhoi ymateb pellach.

Casglodd yr Ombwdsmon nad oedd y Cyngor wedi ymateb i bob agwedd ar gŵyn wreiddiol Mr A, ac yn dilyn derbyn ei e-bost dyddiedig 13 Awst, dywedodd na fyddai’n rhoi ymateb pellach.

Penderfynodd yr Ombwdsmon ofyn i’r Cyngor a gytunodd i roi ymateb ysgrifenedig pellach i Mr A, yn rhoi sylw i’r pwyntiau a godwyd yn ei e-bost dyddiedig 13 Awst 2021, o fewn 20 diwrnod gwaith.