Dyddiad yr Adroddiad

12/22/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Bro Morgannwg

Pwnc

Gwasanaethau Cymdeithasol Plant

Cyfeirnod Achos

202205738

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms T fod Cyngor Bro Morgannwg wedi methu darparu diweddariadau na chyflwyno ymateb i gŵyn am fynediad ei merch anabl at wasanaethau.

Penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd y Cyngor wedi darparu diweddariadau rheolaidd ac ystyrlon ac nad oedd wedi rhoi ymateb i gŵyn Ms T. Dywedodd fod hyn wedi achosi rhwystredigaeth ac ansicrwydd i Ms T. Penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ymddiheuro i Ms T a chyflwyno ymateb i gŵyn Cam 1 o fewn 4 wythnos.