Dyddiad yr Adroddiad

08/16/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Abertawe

Pwnc

Gwasanaethau Cymdeithasol Plant

Cyfeirnod Achos

202202192

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms X am yr oedi gydag ymchwiliad y Cyngor o ganlyniad i’w chŵyn i’r Gwasanaethau Cymdeithasol am ofal ei mab.
Penderfynodd yr Ombwdsmon y dylai’r Cyngor roi ei ymateb Cam 2 i Ms X erbyn 31 Awst 2022. Dylai hefyd ysgrifennu ati i roi gwybod am y sefyllfa bresennol gyda’i chwynion sydd heb eu datrys.
Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod hwn yn ddatrysiad priodol i’r gŵyn yn hytrach na chynnal ymchwiliad.