Dyddiad yr Adroddiad

08/26/2021

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Powys

Pwnc

Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolyn

Cyfeirnod Achos

202102696

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X fod Cyngor Sir Powys (“y Cyngor”) wedi gwrthod symud ei gŵyn ymlaen i gam 2 trefn gwyno’r Gwasanaethau Cymdeithasol.

Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus bod y Cyngor, ar sail y wybodaeth gyfredol, wedi penderfynu na ellid bwrw ymlaen ag ymchwiliad cam 2. Wrth wneud ymholiadau gyda Mr X a’r Cyngor, penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Er mwyn setlo’r gŵyn, cytunodd y Cyngor i gwblhau ymchwiliad cam 2 erbyn 4 Hydref 2021.