Dyddiad yr Adroddiad

06/21/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Ceredigion

Pwnc

Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolyn

Cyfeirnod Achos

202200812

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms X fod y Cyngor wedi methu â gwneud asesiadau priodol ac angenrheidiol ar anabledd dysgu ei chwaer.

Er bod y Cyngor wedi ymchwilio i bryderon Ms X, nododd yr Ombwdsmon nad oedd wedi ymateb i ymholiadau ychwanegol roedd wedi’u codi ar ôl i’r ymchwiliad ddod i ben. Cytunodd y Cyngor i roi ymateb arall erbyn 1 Gorffennaf 2022.