Dyddiad yr Adroddiad

07/29/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Ceredigion

Pwnc

Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolyn

Cyfeirnod Achos

202202005

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs X nad oedd y Cyngor wedi darparu’r offer angenrheidiol ar gyfer ei merch anabl ac nad oedd wedi ymateb i’w chwyn am y mater.

Cadarnhaodd y Cyngor wrth yr Ombwdsmon ei fod wedi methu â darparu diweddariadau rheolaidd ac ystyrlon i Mrs X ac nad oedd wedi rhoi ymateb i’r gŵyn. Roedd yn cytuno i gwblhau’r canlynol er mwyn setlo cwyn Mrs X, erbyn 26 Awst 2022:

a) Rhoi esboniad ac ymddiheuriad i Mrs X am fethu â darparu diweddariadau rheolaidd ac ystyrlon

b) Rhoi ymddiheuriad am yr oedi wrth reoli ei chwyn

c) Rhoi ymateb i’r gŵyn

d) Talu £100 i Mrs X am ei hamser a’i thrafferth wrth fwrw ymlaen â’i chwyn.