Dyddiad yr Adroddiad

05/26/2021

Achos yn Erbyn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Pwnc

Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolyn

Cyfeirnod Achos

202006323

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms A fod yr ymchwiliad annibynnol i’w chŵyn yng Ngham 2 trefn gwyno’r Cyngor yn rhy gul ac nad oedd digon o fanylion. Tynnodd Ms A sylw at nifer o anghysonderau a gwallau yn adroddiad yr ymchwiliad annibynnol a dywedodd nad oedd rhai agweddau ar ei chŵyn wedi cael sylw.

Er bod ystyriaeth briodol a thrylwyr wedi cael ei rhoi i’r gŵyn, roedd yr Ombwdsmon o’r farn y gallai’r Cyngor ddarparu ymateb manylach, gan roi sylw i bryderon penodol Ms A.
Cytunodd y Cyngor, ar y cyd â Ms A, i ystyried ac adolygu’r materion yr oedd hi o’r farn eu bod wedi’u cofnodi’n anghywir ac nad oedd wedi cael sylw yn Adroddiad Cam 2 yr Ymchwiliad ac, os oedd yn briodol, i drefnu adendwm i’r adroddiad a/neu ymateb pellach i’r gŵyn, gan gywiro unrhyw anghysondebau a mynd i’r afael ag unrhyw faterion sydd heb eu datrys, o fewn 30 diwrnod gwaith.

Ym marn yr Ombwdsmon, roedd y camau uchod yn rhesymol i setlo cwyn Ms A.