Dyddiad yr Adroddiad

07/19/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Bro Morgannwg

Pwnc

Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolyn

Cyfeirnod Achos

202201653

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss X nad oedd wedi cael ymateb digonol gan y Cyngor mewn perthynas â chwyn yr oedd wedi’i wneud ynghylch y ffordd yr oedd wedi delio â phryderon diogelu amdani hi a’i chydweithiwr.
Cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Cyngor, a gytunodd i ddarparu ymateb llawn i Miss X erbyn 29 Gorffennaf ac ymddiheuro am yr oedi wrth ymateb iddi. Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod hyn yn ddatrysiad priodol ac felly ni ymchwiliodd i’r gŵyn.