Dyddiad yr Adroddiad

12/16/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Abertawe

Pwnc

Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolyn

Cyfeirnod Achos

202205192

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X am y modd yr oedd y Cyngor wedi delio â chwynion am ofal ei fam a’r pryderon yr oedd wedi’u codi ynghylch ei lles.

Er bod yr Ombwdsmon wedi canfod bod ymateb y Cyngor i gŵyn Mr X, a’r pryderon a godwyd ganddo, yn rhesymol, roedd camau heb eu cymryd yn dilyn yr atgyfeiriad diogelu.

Cadarnhaodd y Cyngor ei fod wedi:
• Neilltuo Gweithiwr Cymdeithasol i gwblhau’r camau gweithredu sydd heb eu cwblhau.
• Diweddaru ei gofnodion ynghylch manylion cyswllt Mr X.

Cytuno, o fewn 6 wythnos i ddyddiad y penderfyniad hwn:
• Y byddai’r Gweithiwr Cymdeithasol yn cysylltu â Mr X ynghylch y sefyllfa bresennol.
• Y byddai’r Cyngor yn rhoi gwybod i’r Ombwdsmon am y camau a gymerwyd ganddo.