Dyddiad yr Adroddiad

06/09/2021

Achos yn Erbyn

Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Pwnc

Gwasanaethau Ambiwlans

Cyfeirnod Achos

202000586

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Ms X ar ran ei diweddar dad, Mr Y, nad oedd Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (“WAST”) wedi darparu gofal a thriniaeth amserol a rhesymol i Mr Y ar 12 Rhagfyr 2019. Cwynodd Ms X hefyd nad oedd wedi ymdrin yn briodol â’i chŵyn i WAST.

Canfu’r ymchwiliad nad oedd WAST wedi darparu gofal amserol a phriodol i Mr Y. Yn benodol, canfu er bod WAST yn brysur iawn ar y diwrnod dan sylw, roedd adegau pan nad oedd dan bwysau gweithredol, neu pan y dylai er hynny fod wedi rhoi blaenoriaeth i alwadau i rai yn sefyllfa Mr Y. Hefyd, ni chafodd Mr Y ei alw’n ôl ar sawl achlysur, ac roedd sbardunau i ymateb i alwad Mr Y wedi’u colli. Cafodd lefel flaenoriaeth ei alwad ei huwchgyfeirio yn y diwedd bymtheng awr ar ôl iddo ffonio gyntaf, a bron i 9 awr ar ôl i rywun siarad ag ef.

Cynghorwyd Mr Y fwy nag unwaith o beidio yfed dim, a bod hynny wedi golygu ei fod wedi bod heb hylifau am 22 awr. Roedd y methiannau gwasanaeth a ganfuwyd wedi achosi anghyfiawnder sylweddol i ŵr oedrannus am iddo gael ei adael ar ei ben ei hun ac mewn poen wrth aros am ambiwlans, a phan gyrhaeddodd yr ysbyty roedd yn sych ac mae’n debyg ei fod wedi dadhydradu o ganlyniad. Canfu’r ymchwiliad hefyd nad ymdriniwyd yn briodol â chŵyn Ms X, bod oedi cyn ymateb i’r gŵyn, ac na chafodd eglurhad am yr hyn a ddigwyddodd i Mr Y, a bod WAST yn ail bwysleisio eu bod yn brysur y diwrnod hwnnw. Felly cadarnhaodd yr Ombwdsmon y ddwy elfen o gŵyn Ms X.

Gan fod WAST wedi nodi eisoes feysydd yr oedd angen eu diweddaru o ganlyniad i’w ymchwiliad mewnol ei hun i’r gŵyn, argymhellodd yr Ombwdsmon fod WAST yn rhoi adborth i Ms X ar gynnydd yr argymhellion penodol hynny. Yn benodol, cytunodd WAST i roi adborth ar gynnydd yn ymwneud â hyfforddi staff ychwanegol, adolygu canllawiau gwirio llesiant (yn benodol o ran uwchgyfeirio galwadau os nad oes cysylltiad â’r claf, ac o ran y cyngor a roddir i alwyr pan fydd y claf wedi bod yn aros yn hir) ac i ddangos pan fydd cleifion yn cael eu nodi fel rhai sydd ar eu pen eu hunain neu’n agored i niwed mewn unrhyw ffordd.