Dyddiad yr Adroddiad

05/06/2022

Achos yn Erbyn

Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Pwnc

Gwasanaethau Ambiwlans

Cyfeirnod Achos

202108254

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms X fod WAST wedi gwrthod ei chludo i’w hapwyntiadau ysbyty ac yn ôl ar amrywiol achlysuron gan arwain at iddi fethu apwyntiadau.

Wrth ystyried y gŵyn, roedd yr Ombwdsmon yn bryderus y ceid anghysondeb gyda’r amser o safbwynt un apwyntiad ac roedd WAST wedi methu â rhoi sylw i hyn yn ei hymateb. Yn hytrach na chynnal ymchwiliad, gofynnodd i WAST gwblhau’r canlynol i setlo cwyn Ms X:

a) Ymddiheuro i Ms X am beidio â rhoi’r sylw i’r anghysondeb amser yn yr ymateb gwreiddiol
b) Darparu i Ms X eglurhad ychwanegol