Dyddiad yr Adroddiad

05/23/2022

Achos yn Erbyn

Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

Pwnc

Gwasanaethau Ambiwlans

Cyfeirnod Achos

202102616

Canlyniad

Ni Chadarnhawyd

Cwynodd Miss K am yr oedi a ddioddefodd Mr Q ar 24 Ionawr 2019 tra’n aros am ambiwlans. Dywedodd Miss K fod yr alwad wedi cael ei chategoreiddio’n anghywir gan Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a arweiniodd at oedi o bron i 4 awr.

Canfu ymchwiliad yr Ombwdsmon fod yr Ymddiriedolaeth wedi codio’r 3 galwad a gafodd, ac ystyried nifer y galwadau brys yr oedd yn eu cael a’r adnoddau a oedd ar gael, ei bod wedi anfon ambiwlans cyn gynted ag y gallai at Mr Q.

Ni chadarnhaodd yr Ombwdsmon y gŵyn.