Dyddiad yr Adroddiad

12/05/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe

Pwnc

Gofal Meddyg Teulu y Tu Allan i Oriau

Cyfeirnod Achos

202106097

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mr X fod meddyg teulu y tu allan i oriau a gyflogwyd gan y Bwrdd Iechyd wedi rhoi cyngor anghywir iddo a dywedodd y dylai fod wedi cael ei gyfeirio i’r ysbyty. Cwynodd hefyd fod y Meddyg Teulu y Tu Allan i Oriau yn ddiystyriol o ran ei agwedd ac na roddwyd sylw i’w bryderon.
Canfu’r ymchwiliad fod asesiad y Meddyg Teulu y Tu Allan i Oriau o Mr X yn rhesymol, yn yr un modd ag y cafodd asesiad Mr X ei reoli yn yr ymgynghoriad. Fodd bynnag, canfu’r ymchwiliad hefyd fod camweinyddu wedi digwydd wrth i’r Bwrdd Iechyd ymdrin â chŵyn Mr X ac felly ni chyrhaeddodd safon resymol.
Cadarnhaodd yr Ombwdsmon gŵyn Mr X nad oedd y Bwrdd Iechyd wedi delio â’i gŵyn yn briodol. Cytunodd y Bwrdd Iechyd ag argymhelliad yr Ombwdsmon i ymddiheuro i Mr X.