Dyddiad yr Adroddiad

09/03/2021

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Ynys Môn

Pwnc

Eraill

Cyfeirnod Achos

202101795

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms X am y ffordd yr oedd y Cyngor wedi ymateb i’w chwynion ynghylch diffyg gorfodaeth barcio ger ei chartref.
Er bod y Cyngor wedi ymateb i’r gŵyn, er i’r ymateb ysgrifenedig fod yn hwyr, daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad bod agweddau ar y gŵyn oedd heb dderbyn ymateb cyflawn. Felly, mae angen i’r Cyngor ddarparu, o fewn 3 wythnos, ymateb ysgrifenedig pellach i Ms X yn nodi:
• Yr ymweliadau gorfodi a gynhaliwyd.
• Ymweliadau gorfodi parhaus a fwriedir.
• Beth i’w wneud yn y dyfodol os gwelir tramgwydd parcio, a sut fyddai’r Cyngor yn ymateb i hyn.