Dyddiad yr Adroddiad

10/15/2021

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir y Fflint

Pwnc

Eraill

Cyfeirnod Achos

202103573

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs C am weithiwr cymdeithasol o Gyngor Sir y Fflint a fu’n gweithio gyda’i theulu yn 2020. Dywedodd Mrs C fod y gweithiwr cymdeithasol yn ddigywilydd wrthi hi a’i theulu, wedi gofyn cwestiynau nad oedd yn berthnasol i’r hyn oedd dan sylw, a bod camgymeriadau yn ei hadroddiad. Dywedodd Mrs C pan aeth ei hachos ymlaen at gynhadledd, y cafodd wybod mai dim ond cymorth addysgol oedd ei angen ar ei mab ac nad oedd angen cynnwys y gwasanaethau cymdeithasol.

Casglodd yr Ombwdsmon er bod y Cyngor wedi ymateb i bryderon Mrs C pan leisiodd ei phryderon yn 2020, bod rhai materion a gododd gyda’r Ombwdsmon nad oedd y Cyngor wedi eu hystyried. Cytunodd y Cyngor y gallai fod wedi bod yn gliriach yn egluro wrth Mrs C sut i symud ymlaen gyda’i chŵyn os oedd yn anhapus â’r ymateb. Cytunodd y Cyngor i ymateb i Mrs C yn rhoi sylw i’r pryderon oedd heb eu hateb, o fewn 20 diwrnod gwaith.