Dyddiad yr Adroddiad

05/13/2021

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Ceredigion

Pwnc

Eraill

Cyfeirnod Achos

202006242

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms X nad oedd y Cyngor wedi ymateb i’w phryderon ynghylch y gofal yr oedd wedi bod yn ei roi i’w ffrindiau. Dywedodd Ms X nad oedd y gefnogaeth yr oedd wedi gofyn amdani wedi cael ei rhoi. Canfu’r asesiad nad oedd y Cyngor wedi ymateb yn ffurfiol i gŵyn Ms X. Cytunodd y Cyngor i wneud hynny ond byddai’n cysylltu â’r achwynydd yn gyntaf o fewn 10 diwrnod gwaith, er mwyn esbonio’i chŵyn. Cytunodd y Cyngor i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r swyddfa hon am ei chynnydd o ran ystyried y gŵyn yn ffurfiol o fewn 20 diwrnod gwaith. Cytunodd y Cyngor hefyd i nodi unrhyw anghenion gofal cymdeithasol a oedd gan yr achwynydd neu ei ffrindiau (yn amodol ar y caniatâd angenrheidiol) ac i gymryd camau i roi unrhyw wasanaethau cefnogi priodol ar waith cyn gynted â phosib.