Dyddiad yr Adroddiad

09/30/2021

Achos yn Erbyn

Cyngor Caerdydd

Pwnc

Eraill

Cyfeirnod Achos

202100014

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cododd Mr A sawl cwyn am y ffordd y gwnaeth y Cyngor ddelio â’i broblemau trwsio/cynnal a chadw tŷ, gan gynnwys yr oedi o ran darparu asesiad Therapydd Galwedigaethol iddo.
Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad fod Mr A wedi symud i mewn i’w eiddo ychydig ddiwrnodau cyn yr ail gyfnod clo, ac roedd peth o’r oedi wedi digwydd fel canlyniad nad oedd modd ei osgoi o’r cyfnod clo cenedlaethol a’r cyfyngiadau a roddwyd ar waith oherwydd pandemig Covid-19.

Yn dilyn cyswllt â’r Ombwdsmon, cytunodd y Cyngor i roi llawer o gamau gweithredu ar wait hi sicrhau ymweliad Therapydd Galwedigaethol i asesu anghenion Mr A ac adolygu a fyddai unrhyw addasiadau i’r eiddo’n ddichonadwy, a rhoi gwybod i Mr A am y sefyllfa. Nodi’n ysgrifenedig y gwaith trwsio/gwaith sydd wedi’i wneud eisoes yn yr eiddo, a pha waith sy’n weddill gyda dyddiad pan fydd y gwaith hyn yn cael ei gwblhau, ac ymddiheuro i Mr A, a chynnig £350 am yr amser a’r drafferth a gafodd eu dioddef, o ganlyniad i’r oedi yn yr asesiad gan y Therapydd Galwedigaethol a diffyg cyfathrebu clir y Cyngor gydag ef yn ystod y cyfnod.