Dyddiad yr Adroddiad

07/15/2021

Achos yn Erbyn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen

Pwnc

Eraill

Cyfeirnod Achos

202100613

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Dywedodd Mr A fod ei fam yn byw yng Nghartref Gofal Preswyl B (“y Cartref Gofal”). Cwynodd Mr A fod y Cartref Gofal wedi ymyrryd/monitro ei alwadau ffôn/Facebook/cyfathrebu gyda’i fam yn ystod ymchwiliad diogelu.

Canfu’r Ombwdsmon y barnwyd bod gan fam Mr A allu i wneud ei phenderfyniadau ei hun, bod y Cyngor yn talu am ei lleoliad yn y Cartref Gofal ac mai’r Cyngor oedd wedi cynnal yr ymchwiliad diogelu. Yn unol â hynny, dylai’r gŵyn cael ei chyfeirio at y Cyngor, i’w sylw ef, fel y corff cywir i ddelio â’r gŵyn hon. Canfu’r Ombwdsmon fod Mr A wedi cwyno wrth y Cartref Gofal, ond nid wrth Gyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen (“y Cyngor”).

Ar ôl i ni gysylltu â’r Cyngor, er mwyn setlo’r gŵyn hon cytunodd i gysylltu â Mr A o fewn 20 diwrnod gwaith, rhoi ei gŵyn drwy ei drefn gwyno statudol ar gyfer y gwasanaethau cymdeithasol a rhoi ymateb ysgrifenedig ffurfiol iddo i’w bryderon.