Dyddiad yr Adroddiad

08/26/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf

Pwnc

Eraill

Cyfeirnod Achos

202202881

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms Q fod y Cyngor wedi gwrthod dweud wrthi am iechyd a lleoliad ei diweddar bartner, Mr X, o fis Chwefror 2021 ymlaen, ac wedi methu â rhoi gwybod iddi am ei farwolaeth tan sawl mis ar ôl y digwyddiad. Cwynodd hefyd fod y Cyngor wedi methu â threfnu gweinyddu ei ystâd, gan ei gadael gyda’r gwaith o fynd i’r afael â materion hyn.
Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod awydd Ms Q i gael gwybodaeth am ei phartner yn ymwneud â’i hawl i fywyd preifat a theuluol o dan Erthygl 8 o’r Ddeddf Hawliau Dynol. Roedd yr Ombwdsmon yn fodlon nad oedd yn afresymol o dan yr amgylchiadau i’r Cyngor atal gwybodaeth am Mr X rhag Ms Q yn yr wythnosau cyn ei farwolaeth. Fodd bynnag, ar ôl i Mr X farw, dangosodd y Cyngor ddiffyg brys wrth sefydlu y gallai gwybodaeth am ei farwolaeth gael ei throsglwyddo i Ms Q. Arweiniodd hyn at oedi o 5 mis cyn dweud wrth Ms Q fod Mr X wedi marw, a oedd yn debygol o fod wedi achosi trallod ychwanegol iddi, mater y gellid fod wedi’i osgoi.
Roedd yr Ombwdsmon hefyd yn bryderus y dylai’r Cyngor, o dan yr amgylchiadau, fod wedi rhoi cyngor a chymorth priodol i Ms Q mewn perthynas â setlo ystâd Mr X yn dilyn ei farwolaeth, i’r graddau yr effeithiodd arni hi. O ganlyniad, gadawyd Ms Q i ddatrys y mater ar ei phen ei hun heb gymorth, amser a thrafferth y gellid fod wedi’i osgoi.
Er mwyn datrys y gŵyn, cytunodd y Cyngor i ymddiheuro i Ms Q am y methiannau a nodwyd ac i wneud taliad o £750 iddi am yr anghyfiawnder a’r amser a’r drafferth a achoswyd iddi y gellid fod wedi’i osgoi. Cytunodd y Cyngor hefyd i gysylltu â Ms Q i gynnig cymorth a chyngor priodol iddi (ei hun, neu drwy atgyfeiriad cyflym i asiantaeth allanol briodol) gydag unrhyw bryderon parhaus ynghylch ystâd Mr X.