Dyddiad yr Adroddiad

08/27/2021

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

Eraill

Cyfeirnod Achos

202102221

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs X nad oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro (“y Bwrdd Iechyd”) wedi cynnal adolygiad blynyddol o’i mab, fel yr argymhellwyd gan ymgynghorydd preifat.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Bwrdd Iechyd wedi gwrthod ystyried cwyn Mrs X, a gyflwynwyd ym mis Mai 2021, gan ei fod yn dweud ei fod wedi darparu ymateb yn flaenorol ym mis Rhagfyr 2019. Canfu’r Ombwdsmon fod yr ymateb ym mis Rhagfyr 2019 yn rhoi sylw i wahanol faterion ac nad oedd Mrs X wedi darparu copïau o ohebiaeth gan yr ymgynghorydd preifat i’r Bwrdd Iechyd i gefnogi ei chwyn.

Ceisiodd a derbyniodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ddarparu cadarnhad ysgrifenedig o fewn 10 diwrnod gwaith i Mrs X y byddai’n ymchwilio i’w chwyn am adolygiad blynyddol ei mab ac yn ymateb yn unol â phroses Gweithio i Wella’r GIG.