Dyddiad yr Adroddiad

10/29/2021

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Eraill

Cyfeirnod Achos

202103220

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X fod y Bwrdd Iechyd wedi methu ag ymateb yn sylweddol, er gwaethaf ei ymdrechion, i’w bryderon am y gofal a’r driniaeth a gafodd yn Ysbyty Gwynedd ym mis Mehefin 2020. Cafodd ymateb gan y Bwrdd Iechyd ym mis Gorffennaf 2020 yn nodi y bydd ei gwyn yn cael ei hystyried trwy Adolygiad Digwyddiad Difrifol a bydd y broses honno yn cymryd hyd at 3 mis i’w chwblhau. Dywedodd y Bwrdd Iechyd hefyd y bydd canlyniad yr adolygiad ynghyd a’r adroddiad yn cael eu hanfon ato ar ôl eu cwblhau.

Wrth ystyried cwyn Mr X, roeddwn yn bryderus ynghylch yr oedi ar ran y Bwrdd Iechyd ac am y ffaith nad oedd Mr A wedi cael ymateb sylweddol i’w bryderon.

I setlo cwyn Mr X, cytunodd y Bwrdd Iechyd I ddarparu ymateb sylweddol i’w gwyn o fewn 2 fis a chynnig taliad o £250 o fewn 1 mis i adlewyrchu’r drafferth a’r amser a dreuliodd Mr A yn aros am yr ymateb sylweddol.