Dyddiad yr Adroddiad

09/28/2022

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Pwnc

Eraill

Cyfeirnod Achos

202201684

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms A am fethiant y bwrdd iechyd i ddarparu cefnogaeth i’w Anhwylder Gorfwyta mewn Pyliau, ac i ddarparu diagnosis, cefnogaeth a therapi ar gyfer ei Anhwylder Straen Ôl-drawmatig.
Penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd ymateb y Bwrdd Iechyd i’r gŵyn wedi mynd i’r afael yn llawn â’r materion a godwyd gan Ms A.
Ceisiodd a sicrhaodd yr Ombwdsmon gytundeb y Bwrdd Iechyd i ddarparu ymateb i’r materion perthnasol o fewn 3 mis.