Dyddiad yr Adroddiad

12/01/2021

Achos yn Erbyn

Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Pwnc

Eraill

Cyfeirnod Achos

202003444

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mrs F, tra’r oedd ei gŵr Mr F yn yr ysbyty ym mis Gorffennaf 2020, fod Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (“y Bwrdd Iechyd”) wedi cwblhau ffurflen Peidio â Cheisio Dadebru Cardio-Anadlol (“DNACPR”) yn amhriodol.

Casglodd yr ymchwiliad nad oedd y cofnodion yn dangos i ba raddau fyddai effaith cyflyrau presennol Mr F ar y tebygolrwydd o ddadebru llwyddiannus, a dymuniadau Mr F, wedi cael eu hystyried yn briodol. Casglodd fod y diffyg cofnodion wedi dangos methiant i ddilyn y polisi DNACPR, oedd yn gyfystyr â chamweinyddu. Roedd y cofnodi diffygiol a diffyg awdurdod clinigol priodol i gefnogi’r penderfyniad yn codi amheuon ynghylch a ddylai’r penderfyniad DNACPR fod wedi cael ei wneud o gwbl. Casglodd yr ymchwiliad fod y Bwrdd hefyd wedi methu â chynnwys Mrs F yn y drafodaeth a heb roi gwybod iddi am y penderfyniad. Er nad oedd effaith glinigol o ganlyniad i’r penderfyniad DNACPR, roedd y diffyg cyfathrebu a methu â dangos tystiolaeth ddigonol fod y penderfyniad yn briodol wedi achosi gofid mawr i Mr a Mrs F, gan achosi anghyfiawnder iddynt.

Ar ôl i Mrs F gwyno i’r Bwrdd Iechyd, cymrodd gamau priodol i gywiro pethau drwy sicrhau bod cofnodion Mr F yn nodi’n glir bod angen cynnwys Mrs F mewn unrhyw benderfyniad a thrafodaeth am ofal ei gŵr. Hefyd, cafodd y ffurflen DNACPR ei diddymu, ei thynnu allan o gofnodion Mr F a’i chyflwyno i Mrs F ar gyfer ei gwaredu.

Cytunodd y Bwrdd Iechyd hefyd i ymddiheuro’n ysgrifenedig wrth Mr a Mrs F, atgoffa’r holl staff o bwysigrwydd dilyn y polisi DNACPR a sicrhau bod y meddyg yn myfyrio ar gasgliadau’r ymchwiliad.