Dyddiad yr Adroddiad

08/18/2021

Achos yn Erbyn

Cyngor Dinas Casnewydd

Pwnc

Eraill Amrywiol

Cyfeirnod Achos

202101743

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X fod tîm Safonau Masnach y Cyngor wedi rhoi’r gorau i ymchwiliad i fasnachwr yr oedd wedi prynu fan ganddo. Dywedodd Mr X fod ganddo dystiolaeth a oedd yn gwrth-ddweud datganiad y Cyngor nad oedd y Masnachwr yn masnachu mwyach. Felly, cwynodd y dylai’r tîm Safonau Masnach ailddechrau’r ymchwiliad.

Yn dilyn trafodaeth gyda’r Ombwdsmon, cytunodd y Cyngor i ystyried y dystiolaeth yr oedd Mr X wedi’i chasglu a chadarnhau a fyddai’n achosi i’r tîm Safonau Masnach ailddechrau ymchwiliad. Cytunodd y Cyngor i ddarparu ymateb ysgrifenedig ffurfiol i Mr X o fewn 30 diwrnod gwaith i benderfyniad yr Ombwdsmon.