Dyddiad yr Adroddiad

02/17/2023

Achos yn Erbyn

Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Pwnc

Eraill Amrywiol

Cyfeirnod Achos

202206428

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr B nad oedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi cofnodi cwynion a wnaeth iddo am ei aelodau etholedig. Cwynodd hefyd am yr amser yr oedd wedi’i gymryd i ymateb i’w geisiadau Rhyddid Gwybodaeth.

Cyfeiriodd yr Ombwdsmon Mr B at Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth mewn perthynas â’i bryderon ynghylch ymdrin â’i geisiadau Rhyddid Gwybodaeth. Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor yn gywir wrth benderfynu peidio ag ystyried cwynion Mr B am ei aelodau etholedig gan nad oes ganddo bwerau i ymchwilio i gwynion o’r fath. Fodd bynnag, cymerodd y Cyngor sawl mis cyn cynghori Mr B y dylid cyflwyno cwynion i’r Ombwdsmon am ymddygiad aelodau etholedig. Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor wedi cael cyfleoedd i egluro hyn i Mr B yn gynt nag a wnaeth, a achosodd oedi a rhwystredigaeth i Mr B. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Ceisiodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Cyngor i ymddiheuro i Mr B, o fewn 4 wythnos, am fethu â rhoi gwybod iddo nad oedd ganddo unrhyw bwerau i ymchwilio i’w bryderon ynghylch ei aelodau etholedig ac am fethu â’i gyfeirio at yr Ombwdsmon yn brydlon.