Dyddiad yr Adroddiad

10/27/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Tref Llanymddyfri

Pwnc

Dyletswydd i gynnal y gyfraith

Cyfeirnod Achos

202100012

Canlyniad

COD

Derbyniodd yr Ombwdsmon gŵyn bod Aelod (“yr Aelod”) o Gyngor Tref Llanymddyfri (“y Cyngor”) wedi torri’r Cod Ymddygiad.  Roedd yr Aelod wedi’i chael yn euog o yrru dan ddylanwad cyffuriau ac roedd wedi’i adrodd mewn papur newydd nad oedd yn bwriadu ymddiswyddo fel Maer.

Ystyriodd yr ymchwiliad a oedd yr Aelod wedi methu â chydymffurfio â pharagraff 6(1)(a) o’r Cod Ymddygiad o ran bod rhaid i aelodau beidio ag ymddwyn mewn modd y gellid yn rhesymol ei ystyried fel un sy’n dwyn anfri ar eu swydd neu eu hawdurdod.

Ystyriodd yr Ombwdsmon euogfarn yr Aelod a’r ffaith nad oedd ei dedfryd yn gyfystyr â gwaharddiad awtomatig fel yr amlinellwyd yn Adran 80A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.  Hefyd, ystyriodd yr Ombwdsmon y cyfrif a gafwyd gan yr Aelod.

Ystyriodd yr Ombwdsmon a oedd angen cymryd camau pellach er budd y cyhoedd, ynghyd â diben hollbwysig y gyfundrefn safonau moesegol yng Nghymru, sef cynnal safonau ymddygiad mewn bywyd cyhoeddus a chynnal hyder mewn democratiaeth leol.  Roedd yr Ombwdsmon o’r farn y gellid ystyried euogfarn yr Aelod a’r sylw dilynol yn y wasg a oedd yn cyfeirio at y Cyngor, aelodaeth yr Aelod o’r Cyngor a’i swydd fel Maer, yn ymddygiad a allai ddwyn anfri ar ei Chyngor a/neu ei swydd fel cynghorydd ac yn ymddygiad a oedd yn awgrymu torri paragraff 6(1)(a) o’r Cod Ymddygiad.

Cyfeiriwyd yr adroddiad ar yr ymchwiliad at Swyddog Monitro Cyngor Sir Caerfyrddin i’w ystyried gan ei Bwyllgor Safonau.

Daeth y Pwyllgor Safonau i’r casgliad bod yr aelod wedi torri paragraff 6(1)(a) o’r Cod Ymddygiad.  Yn unol â hynny, penderfynodd y Pwyllgor Safonau y dylid atal yr Aelod am 2 fis a bod yn ofynnol iddi fynychu hyfforddiant Cod Ymddygiad o fewn 6 mis.