Dyddiad yr Adroddiad

06/24/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Cymuned Llansanffraid

Pwnc

Dyletswydd i gynnal y gyfraith

Cyfeirnod Achos

202004442

Canlyniad

Cyfeiriwyd at Panel Dyfarnu Cymru

Cafodd yr Ombwdsmon gŵyn bod Aelod (“yr Aelod”) o Gyngor Cymuned Llansanffraid (“y Cyngor”) wedi torri’r Cod Ymddygiad. Honnwyd bod yr Aelod yn gysylltiedig â digwyddiad gyda chontractwr y Cyngor (“y Contractwr”), ac o ganlyniad cafwyd ymchwiliad gan yr Heddlu. Yn dilyn hynny, plediodd yr Aelod yn euog i gyhuddiad o achosi niwed corfforol drwy yrru’n wyllt ac yn bryfoclyd. Ystyriodd yr ymchwiliad a oedd yr Aelod wedi methu â chydymffurfio â’r ddarpariaeth ganlynol yn y Cod Ymddygiad:

  • 6(1)(a) – Rhaid i Aelodau beidio ag ymddwyn mewn modd y gellid yn rhesymol ystyried ei fod yn dwyn anfri ar eu swydd neu eu hawdurdod.

Cafwyd adroddiad tyst gan y Clerc a chafwyd gwybodaeth gan yr Heddlu a’r Llys. Gwrthododd yr Aelod gydweithredu ag ymchwiliad yr Ombwdsmon. Canfu’r ymchwiliad fod natur y trosedd, a oedd yn ymwneud â Chontractwr y Cyngor, yr effaith ar y bechgyn ifanc a gafodd eu hanafu yn y digwyddiad, a’r cyhoeddusrwydd ynghylch y digwyddiad, a gyfeiriodd at y Cyngor, yn awgrymu y gallai gweithredoedd yr Aelod fod wedi dwyn anfri ar ei swydd a’r Cyngor ac yn awgrymu bod paragraff 6(1)(a) o’r Cod Ymddygiad wedi cael ei dorri. Cafodd yr adroddiad ar yr ymchwiliad ei gyfeirio at sylw Llywydd Panel Dyfarnu Cymru (APW) ar gyfer penderfyniad gan dribiwnlys.

Daeth y Tribiwnlys i’r casgliad bod yr Aelod wedi torri paragraff 6(1)(a) o’r Cod Ymddygiad drwy ddwyn anfri ar ei swydd fel Cynghorydd.  Yn unol â hynny, penderfynodd y Tribiwnlys y dylai’r aelod gael ei wahardd am 12 mis rhag bod yn aelod o’r awdurdod neu ddod yn aelod o unrhyw awdurdod perthnasol arall.