Dyddiad yr Adroddiad

05/11/2021

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Powys

Pwnc

Diogelu

Cyfeirnod Achos

202100112

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss A am fethiant y Cyngor i asesu a chynnal ei ymchwiliad ei hun i adroddiadau a gafodd am honiadau bod ei mab wedi cael ei gam-drin. Dywedodd fod y Cyngor wedi trosglwyddo’r mater i adran Gwasanaethau Cymdeithasol arall am resymau awdurdodaethol, a bod y penderfyniad hwn yn un gwael a’i fod yn dangos diffyg crebwyll.

Canfu’r Ombwdsmon fod y Cyngor wedi gwrthod ymchwilio i gŵyn Miss A yn unol â Rheoliadau Gweithdrefn Gwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru), ar y sail y gallai gwneud hynny ddylanwadu ar achosion cyfreithiol parhaus. Methodd y Cyngor â chyflwyno unrhyw dystiolaeth ynghylch sut y byddai ymchwilio i’w benderfyniad gweinyddol/gweithdrefnol i beidio â chynnal asesiad o fab Miss A, yn debygol o niweidio achos llys teulu. Felly, daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad bod cwyn Miss A yn un y dylid ymchwilio iddi yn unol â’r Rheoliadau.

Cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Cyngor a chytunodd i wneud y canlynol o fewn 5 diwrnod gwaith:

a) Cychwyn ymchwiliad ffurfiol i gŵyn Miss A, yn unol â Rheoliad 17 Rheoliadau Gweithdrefn Gwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) 2014.

Roedd yr Ombwdsmon yn fodlon y byddai hyn yn datrys y materion a ystyriwyd yn y gŵyn hon.