Dyddiad yr Adroddiad

10/27/2021

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Penfro

Pwnc

Diogelu

Cyfeirnod Achos

202003937

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Mrs A am y camau a gymrodd Gyngor Sir Benfro (“y Cyngor”) yn dilyn ymosodiad rhywiol ei merch, B. Cwynodd Mrs A fod y Cyngor wedi methu â diogelu B yn unol â’i ddyletswydd statudol, wedi methu ag ystyried a ddylid adolygu / monitro ymateb yr Ysgol i ddiogelu B, ac wedi methu ag ystyried a ddylid adolygu / monitro sut y deliodd yr Ysgol â chŵyn Mrs A yn Chwefror 2019. Cwynodd Mrs A hefyd fod y Cyngor wedi methu â dilyn ei broses gwynion yn briodol a phrydlon.

Casglodd yr ymchwiliad fod y Cyngor wedi methu â chyfathrebu a rhannu gwybodaeth yn briodol â Mrs A a B yng nghyswllt ei ddyletswyddau statudol, ac wedi methu â rhoi copi o ganlyniad yr ymholiadau’n brydlon i Mrs A. Casglodd hefyd fod y Cyngor wedi methu ag ystyried a ddylid adolygu / monitro sut y deliodd yr Ysgol â chŵyn Mrs A yn Chwefror 2019 ac nad oedd wedi gallu darparu copïau o’r dogfennau adolygu, oedd yn gyfystyr â chamweinyddu. Roedd y methiannau hyn wedi achosi straen, trallod ac anhwylustod sylweddol i Mrs A a B, a achosodd anghyfiawnder iddynt. Casglodd yr ymchwiliad fod cyfleoedd wedi eu colli i gyfeirio Mrs A ymlaen at y Swyddog Cwynion ac na chafodd erioed ei chynghori’n ffurfiol, ac na dderbyniodd unrhyw wybodaeth ysgrifenedig, am sut i wneud cwyn. Achosodd y methiant hwn anghyfiawnder i Mrs A ac nid oedd wedi gallu uwchgyfeirio ei chŵyn mewn pryd. Ni ymchwiliwyd yn brydlon i’w chwynion ac achosodd hyn straen ac anhwylustod sylweddol i Mrs A wrth iddi barhau i fynd ar ôl ei chwynion dros gyfnod o fisoedd / blynyddoedd. Penderfynodd yr Ombwdsmon dderbyn y rhannau hyn o’r gŵyn. Fodd bynnag, penderfynodd yr ymchwiliad na allai’r Gwasanaethau Cymdeithasol fod wedi gwneud dim mwy i helpu’r Ysgol i ddiogelu B unwaith y daeth eu dyletswydd i ben a’r cyfrifoldeb wedi’i basio i’r Ysgol i fonitro’r sefyllfa. Felly ni dderbyniodd yr Ombwdsmon yr agwedd yma ar gŵyn Mrs A.

Cytunodd y Cyngor, o fewn un mis, i ymddiheuro wrth Mrs A a B a chynnig talu £500 yr un iddynt i gydnabod y trallod a achoswyd iddynt oherwydd y methiannau hyn. Cytunodd hefyd, o fewn un mis, i gynnig talu £250 i Mrs A am fethu â thrin ei chŵyn yn briodol ac i atgoffa holl staff perthnasol y Gwasanaethau Cymdeithasol i roi gwybodaeth i gwsmeriaid am y broses gwynion os yw cwsmeriaid yn mynegi anfodlonrwydd â gwasanaeth. Cytunodd y Cyngor hefyd, o fewn tri mis, i rannu’r adroddiad â’r Cyfarwyddwr Plant ac Ysgolion, y Swyddog Diogelu, a’r Swyddog Cwynion, er mwyn myfyrio arno a thywys ymarfer yn y dyfodol. Cytunodd hefyd i adolygu ei daflen ffeithiau ar Adran 47 Ymchwiliadau Amddiffyn Plant, i sicrhau ei bod yn cynnwys gwybodaeth lawn am y prosesau sy’n cael eu dilyn gan y Gwasanaethau Cymdeithasol pan wneir atgyfeiriad atynt yn awgrymu y gallai plentyn fod mewn perygl.