Dyddiad yr Adroddiad

10/05/2021

Achos yn Erbyn

Cyngor Bro Morgannwg

Pwnc

Datblygiadau heb ei awdurdodi - galw am gamau gorfodi a.y.y.b

Cyfeirnod Achos

202103356

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Roedd Ms B wedi lleisio pryderon am fater cynllunio drwy lenwi ffurflen gynllunio’r Cyngor ond roedd yn gwrthod cyflwyno. Cyflwynodd ei phryderon felly drwy broses gwynion y Cyngor. Cymrodd y Cyngor bron i dri mis i ymateb iddi ac roedd yr ymateb hwnnw’n fyr iawn ac nid oedd yn ymdrin â’r rhan fwyaf o’r pryderon a godwyd ganddi. Dywedodd y Cyngor wedyn ei fod ond wedi ystyried ei phryderon fel ymholiad cynllunio, ac nid fel cwyn ffurfiol.

Teimlai’r Ombwdsmon fod Ms B wedi bod yn glir ei bod yn gwneud cwyn ac y dylai fod wedi derbyn ymateb mwy manwl yn rhoi sylw i’r materion a godwyd ganddi.

Cytunodd y Cyngor i roi ymateb cwyn Cam 1 i Ms B gan roi sylw i’r holl faterion a godwyd ganddi (yn ymwneud â chynllunio a’r gwasanaeth cwsmeriaid) ac ymddiheuro wrth Ms B am yr oedi cyn iddi dderbyn ymateb llawn, a hyn i’w wneud o fewn 20 diwrnod gwaith cymeradwy’r Cyngor ar gyfer ymateb i gwynion Cam 1.