Dyddiad yr Adroddiad

11/26/2021

Achos yn Erbyn

Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

Darparwr Annibynnol y GIG

Cyfeirnod Achos

202104508

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr Y fod practis meddyg teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro (“y Practis Meddyg Teulu”) wedi methu â rhoi chwistrelliadau lleddfu poen i’w fam dros gyfnod estynedig.

Nododd yr Ombwdsmon, er bod Mr Y wedi lleisio ei bryderon gyda’r Practis Meddyg Teulu, a bod y Practis Meddyg Teulu wedi ymateb ar e-bost ac mewn trafodaethau dros y ffôn, nid oedd Mr Y wedi cael ymateb ffurfiol i’w bryderon.

Wrth setlo’r gŵyn, cytunodd y Practis Meddyg Teulu i roi ymateb llawn i gŵyn Mr Y, gan egluro’r digwyddiadau a’r cynllunio ar gyfer triniaeth ei fam o fis Tachwedd 2020.