Dyddiad yr Adroddiad

11/15/2022

Achos yn Erbyn

Canolfan Feddygol yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Pwnc

Dadgofrestriad

Cyfeirnod Achos

202004792

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Ms D am benderfyniad Practis Meddyg Teulu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro i dynnu ei henw oddi ar ei restr cleifion. Dywedodd nad oedd y Practis wedi gwneud y penderfyniad hwnnw’n briodol am ei fod wedi’i wneud cyn trafod ei bryderon â hi, cyn rhoi rhybudd iddi a chyn ystyried yr holl ffeithiau perthnasol.

Canfu’r Ombwdsmon nad oedd y Practis wedi gwneud ei benderfyniad i dynnu enw Ms D oddi ar ei restr cleifion yn briodol. Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad hwnnw, yn achos y broses benderfynu, am bedwar rheswm. Yn gyntaf, roedd o’r farn nad oedd gan y Practis wybodaeth lawn am y ffeithiau. Yn ail, nid oedd yn fodlon ei fod wedi ystyried rhoi rhybudd i Ms D yn unol â’r canllaw perthnasol. Yn drydydd, roedd o’r farn nad oedd wedi cwblhau dadansoddiad digwyddiad sylweddol (ffordd o ddadansoddi digwyddiad yn ffurfiol i ddibenion dysgu), fel sy’n ofynnol yn ôl ei “Bolisi Cleifion Treisgar ac Ymosodol” (“y Polisi”). Yn olaf, nododd na allai, er gwaethaf deddfwriaeth a chanllawiau perthnasol, gyflwyno unrhyw dystiolaeth ddogfennol neu fideo o’r cyfarfod lle gwnaeth y penderfyniad hwn. Roedd yn teimlo bod y methiannau hyn wedi achosi anghyfiawnder sylweddol i Ms D ar ffurf ansicrwydd a thrallod. Cadarnhaodd gŵyn Ms D.

Argymhellodd yr Ombwdsmon y dylai’r Practis ymddiheuro i Ms D am gamgymeriadau’n ymwneud â’i benderfyniad i dynnu ei henw oddi ar ei restr cleifion ac am ei fethiant i ddangos bod y penderfyniad hwnnw wedi’i wneud yn briodol. Gofynnodd iddo hysbysu Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (y corff sy’n cyflawni dyletswyddau cofrestru Meddygon Teulu ar ran y Bwrdd Iechyd) nad oedd wedi rhoi rhybudd i Ms D, fel y dywedwyd pan ofynnodd i’r Bartneriaeth dynnu enw Ms D oddi ar ei restr cleifion.

Argymhellodd y dylai hefyd ofyn i’r Bartneriaeth ddiweddaru ei gofnodion yn unol â hynny. Gofynnodd iddo ddiwygio ei Bolisi yn sgil y canfyddiadau a nodwyd. Dywedodd y Practis y byddai’n gweithredu’r argymhellion hyn.