Dyddiad yr Adroddiad

03/07/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Caerdydd

Pwnc

Cynnal a chadw ffyrdd/ adeiladu ffyrdd

Cyfeirnod Achos

202106866

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X nad oedd y Cyngor wedi llawn ystyried ei bryderon ynghylch y materion draenio a oedd yn digwydd yn ei randir.
Wrth wneud ymholiadau gyda’r Cyngor, hysbyswyd yr Ombwdsmon bod y Cyngor wedi gwneud ymdrechion i ymchwilio i faterion a’i fod yn ceisio canfod achos y mater. Roedd yr Ombwdsmon yn poeni bod y Cyngor wedi methu â rhoi gwybod yn llawn i Mr X am hyn, ac fel dewis arall yn lle ymchwiliad, gofynnodd i’r Cyngor, o fewn y 21 diwrnod nesaf, roi ymateb manwl a thrylwyr i Mr X i setlo’r gŵyn.