Dyddiad yr Adroddiad

11/24/2022

Achos yn Erbyn

Cymdeithas Tai Hafod

Pwnc

Cynnal a chadw a thrwsio (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau a newidiadau ee gwres trwy'r tŷ. Ffenestri dwbl)

Cyfeirnod Achos

202205000

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss X am waith trwsio heb ei wneud yn ei chartref, ac am ddiffyg ymateb i’r gŵyn a wnaed ganddi sawl mis yn ôl.

Penderfynodd yr Ombwdsmon nad oedd y Gymdeithas wedi rhoi sylw i’r gŵyn, a bod hynny wedi achosi oedi a rhwystredigaeth i Miss X.

Gofynnodd a chafodd yr Ombwdsmon gytundeb y Gymdeithas i gyhoeddi ei ymateb o fewn 3 wythnos, ymddiheuro i Miss X am yr oedi, a gwneud taliad o £150 iddi am ei hamser a’i thrafferth.