Dyddiad yr Adroddiad

03/02/2022

Achos yn Erbyn

Trivallis

Pwnc

Cynnal a chadw a thrwsio (gan gynnwys lleithder/gwelliannau a newidiadau ee gwres trwy'r tŷ. Ffenestri dwbl)

Cyfeirnod Achos

202106785

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X nad oedd y Gymdeithas wedi symud y ffan echdynnu ar ei landin i’r ystafell ymolchi. Roedd diffyg ffan echdynnu yn yr ystafell ymolchi wedi achosi tamprwydd.
Cydnabu’r Gymdeithas i’r Ombwdsmon nad oedd wedi gosod ffan echdynnu newydd yn brydlon. Dylai hefyd fod wedi cyfathrebu â Mr X yn fwy effeithiol. Gan hynny, cytunodd y Gymdeithas i ymddiheuro i Mr X a thalu £100 i gydnabod ei ddiffygion, o fewn 1 mis. Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod hyn yn ffordd dderbyniol o ddatrys y gŵyn yn hytrach na chynnal ymchwiliad.