Dyddiad yr Adroddiad

09/10/2021

Achos yn Erbyn

Tai Tarian

Pwnc

Cynnal a chadw a thrwsio (gan gynnwys lleithder/gwelliannau a newidiadau ee gwres trwy'r tŷ. Ffenestri dwbl)

Cyfeirnod Achos

202101356

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mrs X am y ffordd yr oedd Tai Tarian (“y Gymdeithas”) wedi delio â’i phroblemau gyda’r garthffosiaeth. Roedd draeniau yn ei chartref, ochr yn ochr â gwaith trwsio mewnol ac allanol arall. Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad fod y Gymdeithas wedi ceisio gwneud gwaith trwsio a hefyd wedi ceisio cysylltu’n helaeth gyda sefydliadau preifat eraill oedd â chyfrifoldeb awdurdodaethol ynghylch y garthffosiaeth/draeniau yr oedd wedi cwyno amdanynt.

Daeth yr Ombwdsmon i’r casgliad y gallai’r Gymdeithas archwilio eiddo Mrs X eto, mewn cyfarfod gyda hi, a chytuno atodlen glir o waith er mwyn datrys y materion hirsefydlog. O fewn uchafswm o 45 diwrnod, cytunodd y Gymdeithas i drefnu a chynnal cyfarfod â chofnodion gyda Mrs X, ar ôl hynny, byddai atodlen gytunedig o waith yn cael ei chytuno gyda hi. Cytunodd y Gymdeithas hefyd i gysylltu â rhanddeiliaid eraill i geisio hwyluso gwaith oedd y tu allan i’w gylch gwaith ei hun. Ystyriodd yr Ombwdsmon fod hyn yn setliad priodol.