Dyddiad yr Adroddiad

09/30/2022

Achos yn Erbyn

Tai Cymunedol Bron Afon

Pwnc

Cynnal a chadw a thrwsio (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau a newidiadau ee gwres trwy'r tŷ. Ffenestri dwbl)

Cyfeirnod Achos

202203649

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss H, ar ôl cytuno i gyfnewid eiddo cydfuddiannol gyda’r Gymdeithas, ei bod yn teimlo bod y safon yn isel ac nad oedd yr eiddo newydd yn cwrdd â’r safonau yr oedd hi’n eu disgwyl, a bod y Gymdeithas wedi methu â chwblhau archwiliad trylwyr o’r eiddo y gwnaeth hi dderbyn.

Roedd yr Ombwdsmon yn pryderu bod Miss H yn cael problemau gyda safon ei heiddo ac fe gysylltwyd â’r Gymdeithas. Fel dewis amgen yn lle ymchwiliad, cytunodd y Gymdeithas y byddai, erbyn 11 Tachwedd 2022, yn ysgrifennu at Miss H ac yn ei chynghori am y gwaith sydd i gael ei gwblhau, ynghyd ag amserlen ar gyfer y gwaith. Yn ogystal, cytunodd y byddai’n adnewyddu lloriau’r ystafell ymolchi a’r toiled y llawr gwaelod, ac yn trwsio’r twll yn y toiled erbyn yr un dyddiad.