Dyddiad yr Adroddiad

11/11/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Caerfyrddin

Pwnc

Cynnal a chadw a thrwsio (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau a newidiadau ee gwres trwy'r tŷ. Ffenestri dwbl)

Cyfeirnod Achos

202204609

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Ms X am sawl darn o waith trwsio heb ei wneud yn ei chartref, ac am yr oedi cyn cael ymateb i’w chŵyn.

Cysylltodd yr Ombwdsmon â’r Cyngor a chytunodd i ymateb i gŵyn Mrs x, ymddiheuro am yr oedi a rhoi amserlen iddi ar gyfer unrhyw waith trwsio sydd ei angen, a hynny o fewn 6 diwrnod gwaith.

Roedd yr Ombwdsmon o’r farn bod hwn yn ddatrysiad digonol yn lle cynnal ymchwiliad i’r gŵyn.