Dyddiad yr Adroddiad

06/14/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Sir Caerfyrddin

Pwnc

Cynnal a chadw a thrwsio (gan gynnwys lleithder/ gwelliannau a newidiadau ee gwres trwy'r tŷ. Ffenestri dwbl)

Cyfeirnod Achos

202201035

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Er bod y Cyngor wedi cymryd dros 18 mis i gwblhau gwaith yn ei chartref, Cwynodd Ms X fod gwaith atgyweirio yn dal i fod heb ei wneud. Dywedodd ei bod wedi cwyno’n ffurfiol wrth y Cyngor ond nad oedd wedi cael ymateb ysgrifenedig o gwbl.

Wrth ystyried y gŵyn, roedd yr Ombwdsmon yn bryderus fod dal gwaith atgyweirio i’w wneud ar ôl cyfnod mor hir ac nad oedd Ms X wedi cael ymateb i’w chŵyn. Yn lle ymchwiliad, gofynnwyd i’r Cyngor wneud y canlynol er mwyn setlo’r gŵyn:

a) Ymddiheuro i Ms X am yr oedi wrth ymateb i’w chŵyn ac wrth gwblhau’r gwaith.

b) Cyflwyno ymateb ffurfiol i gŵyn Ms X

c) Rhoi iawndal o £100 i Ms X am yr amser a’r drafferth wrth fynd ar drywydd y materion hyn ac am yr anhwylustod cyffredinol

d) Rhaid i’r Cyngor gynnal arolygiad o fewn mis i ganfod yn union beth sydd ar ôl i’w wneud yn awr ac yna gosod rhaglen waith yn nodi pa bryd y bydd pob eitem yn cael ei chwblhau

e) Dylai’r holl waith gael ei gwblhau mewn 3 mis ar ôl yr arolygiad.