Dyddiad yr Adroddiad

08/26/2021

Achos yn Erbyn

Cyngor Caerdydd

Pwnc

Cynnal a chadw a thrwsio (gan gynnwys lleithder/gwelliannau a newidiadau ee gwres trwy'r tŷ. Ffenestri dwbl)

Cyfeirnod Achos

202102504

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X, yn dilyn gollyngiad dŵr yn ei eiddo a difrod i uned wal cegin, fod Cyngor Caerdydd (“y Cyngor”) wedi gwrthod newid ei uned am un a oedd yn cyfateb i liw gwreiddiol ei gegin.

Roedd yr Ombwdsmon o’r farn ei bod yn anffodus nad oedd modd i’r Cyngor amnewid yr uned â rhywbeth tebyg, ac wrth wneud ymholiadau gyda Mr X a’r Cyngor penderfynodd setlo’r gŵyn heb ymchwiliad.

Er mwyn setlo’r gŵyn, cytunodd y Cyngor, o fewn 4 wythnos, i roi siec i Mr X am y gost o gael gafael ar uned cegin a ddymunai, a’i gosod ei hun.