Dyddiad yr Adroddiad

03/25/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Caerdydd

Pwnc

Cynnal a chadw a thrwsio (gan gynnwys lleithder/gwelliannau a newidiadau ee gwres trwy'r tŷ. Ffenestri dwbl)

Cyfeirnod Achos

202106845

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Miss A fod y Cyngor, ym mis Gorffennaf 2021, wedi cytuno i wneud gwaith atgyweirio yn y gegin a oedd yn dal heb ei wneud. Roedd hyn er gwaethaf cysylltu ddwywaith wrth wella ar ôl salwch difrifol. Roedd Miss A hefyd yn bryderus ynghylch camgymeriad yn ymateb ffurfiol y Cyngor i gwynion.
Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus ynghylch yr amser a gymerwyd i gwblhau’r atgyweiriadau ac nad oedd esboniad wedi ei roi am y camgymeriad yn yr ymateb i’r gŵyn. Penderfynodd yr Ombwdsmon setlo’r gŵyn.
Ceisiodd a sicrhaodd gytundeb y Cyngor i wneud y gwaith atgyweirio ar ddyddiad penodol. Yn ogystal, o fewn pythefnos, esbonio’r camgymeriad yn ei ymateb i’r gŵyn, darparu ymddiheuriad priodol a chynnig taliad amser a thrafferth o £250 i gydnabod y trallod ychwanegol a achoswyd.