Dyddiad yr Adroddiad

02/09/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Caerdydd

Pwnc

Cynnal a chadw a thrwsio (gan gynnwys lleithder/gwelliannau a newidiadau ee gwres trwy'r tŷ. Ffenestri dwbl)

Cyfeirnod Achos

202005789

Canlyniad

Cadarnhawyd yn llawn neu yn rhannol

Cwynodd Miss B nad oedd y Cyngor, ym mis Mai 2019, wedi cynnal asesiad Therapi Galwedigaethol priodol o’i mab, P, a oedd yn Awtistig ac a oedd ag anawsterau symud corfforol hefyd. Dywedodd nad oedd y Cyngor wedi cynnig addasiadau priodol i gynnal diogelwch P wrth ddefnyddio’r ystafell ymolchi. Hefyd, cwynodd Miss B bod y Cyngor, pan oedd P yn parhau i fethu defnyddio’r ystafell ymolchi yn ddiogel, wedi methu ystyried ei cheisiadau am addasiadau ac asesiad ychwanegol ym mis Mehefin a mis Gorffennaf 2020.

Canfu’r Ombwdsmon fod yr asesiad Therapi Galwedigaethol ym mis Mai 2019 yn briodol a bod yr addasiadau a argymhellwyd yn cynnig atebion priodol ar y pryd. Fodd bynnag, dylid bod wedi cynnal asesiad arall pan gododd Miss B ragor o bryderon ym mis Mehefin 2020. Roedd yn ymddangos bod ffocws ar broblemau ymddygiad oedd yn gysylltiedig â defnydd P o’r ystafell ymolchi a diffyg cydnabyddiaeth o’r ffordd y byddai Awtistiaeth P yn effeithio ar ei allu i newid y ffordd yr oedd yn defnyddio’r ystafell ymolchi wedi taflu anawsterau corfforol P i’r cysgod. Dylai’r Cyngor fod wedi meddwl mwy am sut i liniaru’r pryderon diogelwch tra’r oedd gwaith yn mynd rhagddo i helpu P i addasu i drefn newydd ac i fabwysiadu ffyrdd gwahanol o ymddwyn yn yr ystafell ymolchi (neu rhag ofn na allai wneud hynny o gwbl).

Cytunodd y Cyngor i ymddiheuro i Miss B a chynnig tâl o £500 i gydnabod y methiannau a nodwyd, yn ogystal â sicrhau bod proses adolygu ar waith er mwyn gwneud yn siŵr bod yr holl bryderon ynghylch diogelwch wedi cael sylw llawn. Cytunodd i wneud hyn o fewn 1 mis. Cytunodd y Cyngor hefyd i ddarparu hyfforddiant cychwynnol neu hyfforddiant diweddaru priodol ar Awtistiaeth i bob Ymgynghorydd Anabledd a Therapydd Galwedigaethol, yn ôl y gofyn, o fewn 6 mis.