Dyddiad yr Adroddiad

02/15/2022

Achos yn Erbyn

Cyngor Caerdydd

Pwnc

Cynnal a chadw a thrwsio (gan gynnwys lleithder/gwelliannau a newidiadau ee gwres trwy'r tŷ. Ffenestri dwbl)

Cyfeirnod Achos

202107083

Canlyniad

Datrys yn gynnar

Cwynodd Mr X fod y Cyngor wedi methu â thrwsio ffenestr yn ei eiddo am dros ddwy flynedd. Cwynodd Mr X, er bod y Cyngor wedi trefnu sawl apwyntiad, roedd pob un ohonynt wedi cael ei ganslo heb gadarnhau unrhyw ddyddiad arall yn y dyfodol.

Roedd yr Ombwdsmon yn bryderus nad oedd ffenestr Mr X wedi’i thrwsio eto, ac nad oedd wedi cael dyddiad wedi’i drefnu ar gyfer gwneud hynny. Fel dewis arall yn lle ymchwiliad, cytunodd y Cyngor i ysgrifennu at Mr X i ymddiheuro’n ffurfiol ac i drefnu i wneud y gwaith trwsio ar 21 Chwefror 2022. Derbyniodd yr Ombwdsmon hyn fel ffordd o ddatrys cwyn Mr X.